Yn ystod yr Wythnos Gwirfoddolwyr hon, mae Cyngor °¬²æAƬ yn dathlu ymroddiad a gwaith caled y rhai sy'n rhoi o'u hamser i gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth i'w cymuned.
Mae gwirfoddolwyr yn cynnwys pobl o bob oed, fel y dangosodd grŵp o bobl ifanc sy'n mynychu Clwb Ieuenctid Stocktonville, Tredegar, pan ddaethant ynghyd i lanhau eu parc sglefrio lleol.

Wedi'i drefnu gan Wasanaeth Ieuenctid °¬²æAƬ, daeth y glanhau â'r bobl ifanc a'u teuluoedd ynghyd, gyda chynrychiolwyr yr heddlu a thân lleol yn ymuno â nhw. Gweithiodd pawb gyda'i gilydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Dywedodd Rheolwr Tîm gyda Gwasanaeth Ieuenctid °¬²æAƬ, Kristian Gay:
“Y bobl ifanc sy’n mynychu’r clwb daeth i fyny â’r syniad eu hunain. Siaradon nhw am fod eisiau gwella’r ardal leol, yn enwedig y parc sglefrio, sy’n lle pwysig iddyn nhw ond oedd yn llawn sbwriel. Yn hytrach na siarad amdano’n unig, fe wnaethon nhw gamu i’r adwy a phenderfynu gwneud rhywbeth yn ei gylch, ac roedd y canlyniadau’n wych. Rydym yn falch iawn ohonyn nhw.â€
Wedi’u harfogi â chasglwyr sbwriel, menig ac offer golchi jet trwy garedigrwydd swyddogion tân lleol, aeth y grŵp ati i wneud hynny. Wedi hynny, roedd yr ardal yn edrych yn lanach, yn fwy diogel ac yn llawer mwy croesawgar.
Dywedodd Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd Cyngor °¬²æAƬ, y Cynghorydd Sue Edmunds:
“Mae hyn yn dangos, pan roddir cyfle i bobl ifanc gymryd rhan, y gallant gyflawni pethau gwych, a helpu i greu newid gwirioneddol, cadarnhaol yn eu cymunedau.
“Mae’r Wythnos Gwirfoddolwyr cyfan yn ymwneud â diolch i’r bobl hynny sy’n dod at ei gilydd neu’n gweithio ar eu pen eu hunain i roi o’u hamser, a gwneud gwahaniaeth, boed hynny’n glanhau unwaith neu’n ymrwymiad rheolaidd.
“Roedd hefyd yn wych gweld teuluoedd yn ymuno, gyda rhieni’n defnyddio’r cyfle i siarad â’u plant am bwysigrwydd gofalu am eu hardal leol. Da iawn pawb fu’n ymwneud â hyn.â€
Mae'r Cyngor yn gweithio gyda chymunedau drwy Y Fargen °¬²æAƬ, perthynas newydd lle rydym yn gweithio gyda'n gilydd i adeiladu rhywbeth gwell, mwy gwydn a thecach gyda'n gilydd, a lle mae rôl gwirfoddolwyr yn cael ei gwerthfawrogi a'i chefnogi.
Mae'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn gobeithio mai dim ond y dechrau yw'r glanhau, ac y bydd hyn o bosibl yn arwain at welliannau mwy yn y parc sglefrio yn y dyfodol, gan gynnwys cyllid i uwchraddio'r lle a'i wneud hyd yn oed yn well i bawb sy'n ei ddefnyddio.
Mae cynlluniau eisoes i gadw'r momentwm i fynd, gyda mwy o weithgareddau a glanhau cymunedol mewn golwg.
Mwy am Y Fargen °¬²æAƬ.
