Mae Parc Lles Brynmawr ar fin derbyn buddsoddiad o £750,000 i wella ei gyfleusterau chwarae a hamdden, ac mae pobl leol yn cael eu gwahodd i helpu i lunio'r cynlluniau.

Mae'r cyllid wedi'i sicrhau trwy Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU a bydd yn helpu i drawsnewid y parc yn lle hyd yn oed yn well i drigolion a theuluoedd ei fwynhau.
Mae'r Cyngor yn casglu barn trwy ei blatfform ymgysylltu newydd, Cymryd Rhan °¬²æAƬ. Gall trigolion gwblhau arolwg, cyfrannu syniadau drwy fwrdd syniadau rhyngweithiol, a gall plant a phobl ifanc hyd yn oed gyflwyno lluniadau yn dangos yr hyn yr hoffent ei weld yn eu parc.
Bydd Gwasanaeth Ieuenctid °¬²æAƬ yn siarad â phobl ifanc i gasglu eu barn, tra bydd y tîm Chwarae yn ymgysylltu â phlant drwy gydol yr haf mewn sesiynau chwarae mynediad agored. Bydd y Cyngor hefyd yn gweithio gyda grwpiau sydd eisoes yn defnyddio'r parc, sefydliadau lleol a Chyngor Tref Brynmawr i sicrhau bod ystod eang o leisiau'n cael eu clywed.
Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:
"Mae hwn yn gyfle gwych i'r gymuned nid yn unig elwa o gyfleuster chwarae newydd cyffrous, ond i helpu i benderfynu sut olwg fydd arno. Rydym am i'r buddsoddiad hwn adlewyrchu'r hyn sydd bwysicaf i bobl leol.
“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol ym Mrynmawr, ac rydym am i bobl feddwl yn fawr a bod yn uchelgeisiol. Dywedwch wrthym beth hoffech chi ei weld.
“Mae chwarae yn rhan hanfodol o blentyndod, gan gefnogi datblygiad, llesiant a hapusrwydd plant wrth eu helpu i feithrin sgiliau bywyd pwysig. Drwy greu mannau diogel, hwyliog a chynhwysol, gallwn sicrhau bod teuluoedd lleol yn parhau i fwynhau'r parc am flynyddoedd lawer i ddod.
“Rydym hefyd yn cydnabod bod y parc yn bwysig i blant hŷn a phobl ifanc, ac rydym wedi ymrwymo i'w cynnwys yn y broses fel y gallant helpu i greu lle sy'n gweithio i bawb.
“Mae'r parc hefyd yn cael ei werthfawrogi gan bobl o bob oed ar gyfer hamdden, adloniant a llesiant, felly rydym am glywed gan gynifer o bobl â phosibl."
Dywedodd yr AS Nick Smith:
"Mae hwn yn enghraifft wych o beth yw Cronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth Lafur y DU. Mae'n ymwneud â buddsoddi yn ein trefi a rhoi cyfle i bobl leol wneud y gwelliannau maen nhw am eu gweld yn y lleoedd sydd bwysicaf.
“Mae'r buddsoddiad hwn o £750,000 ym Mharc Lles Brynmawr yn newyddion gwych i'r dref. Mae'n gyfle gwych i bawb ddod at ei gilydd a helpu i lunio lle y gall plant lleol, teuluoedd a'r gymuned gyfan ei fwynhau am flynyddoedd i ddod. Dyma'n union y math o fuddsoddiad y mae ein hardal yn ei haeddu.
“Rwy'n annog pawb i gymryd rhan, rhannu eu syniadau a chwarae eu rhan wrth greu parc y gall Brynmawr fod yn falch ohono.â€
Croesawodd y cynghorwyr ar gyfer ward Brynmawr, Wayne Hodgins, Jules Gardner a John Hill, y buddsoddiad. Dywedasant:
“Fel cynghorwyr Brynmawr, rydym wrth ein bodd bod y Parc Lles yn cael cymaint o gyllid wedi’i fuddsoddi mewn cyfleuster chwarae blaenllaw yn ein hardal. Rydym am i’r cyhoedd gymryd rhan a phenderfynu ar beth yr hoffent i’r arian gael ei wario yn y parc, fel y gallwn sicrhau bod gennym gyfleuster o’r radd flaenaf sy’n fuddiol i Frynmawr a’r ardaloedd cyfagos.â€
Mae Cronfa Effaith Balchder Bro yn rhaglen Llywodraeth y DU sy’n cefnogi prosiectau i wella cyfleusterau cymunedol, mannau cyhoeddus a strydoedd mawr lleol, gan helpu i greu lleoedd lle mae pobl yn falch o fyw, gweithio a threulio amser ynddynt. Bydd Parc Lles Brynmawr yn cael ei adnewyddu trwy elfen Mannau Agored Cyhoeddus y rhaglen.
Gall pobl ymweld â i ddweud eu dweud.